Amdan Mistar Urdd

Urddo Wyn Mel Eisteddfod Gen 22.jpg

Hanes

O ddarlun bach i eicon cenedlaethol

Crëwyd Mistar Urdd yn 1976 gan Wynne Melville Jones (Wyn Mel), Swyddog Cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd. Wrth geisio dod â’r mudiad yn nes at bobl ifanc ac adnewyddu ei ddelwedd, ychwanegodd Wyn wyneb, breichiau a choesau at logo trionglog yr Urdd, gan roi bywyd i gymeriad a fyddai’n dod yn symbol o falchder ieuenctid Cymru.

Meddai Wyn Mel: “Cefais y cyfle i ddatblygu syniadau newydd i'r Urdd er mwyn apelio at genhedlaeth newydd o ieuenctid, a 50 mlynedd yn ddiweddarach mae Mistar Urdd yn dal i fod yn ffefryn gan blant a phobl ifanc y wlad. Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon i'r holl waith caled dalu ar ei ganfed, ac erbyn heddiw mae'r Urdd yn cael ei gydnabod fel un o fudiadau ieuenctid gorau’r byd.”

Agorwyd siop yn Aberystwyth i werthu nwyddau Mistar Urdd. Roedd pob math o nwyddau’n cael eu gwerthu yn y siop gan gynnwys crysau-T, mygiau, pyrsiau, crysau nos a hyd yn oed trôns Mistar Urdd. Un o'r nwyddau mwyaf poblogaidd oedd gonc (tegan meddal) Mistar Urdd, ac mae ei boblogrwydd yn parhau hyd heddiw.

Erbyn 1979 roedd wedi’i ddatblygu i fod yn fascot berson byw.

1. Jambori Cwpan y Byd - Wales' World cup Singalong 2.JPG

Cyflawni

Dros y degawdau, mae Mistar Urdd wedi ymddangos ar bopeth o sanau, pyjamas a chasys ffôn i raglenni teledu, digwyddiadau chwaraeon ac Eisteddfodau. Mae wedi teithio i'r gofod, wedi helpu’r Urdd i dorri Record Byd ar achlysur canmlwyddiant y mudiad, wedi cyfarch arlywyddion a phrif weinidogion a bellach yn enw ar drên newydd sbon. Mae’n parhau i fod yn un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru, ac yn symbol o groeso cynnes a chynhwysiant i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.

Ewch draw i wefan BBC Bitesize i weld Mistar Urdd yn y gofod: https://www.bbc.co.uk/bitesize/articles/z2tyvwx

Pride 2019.jpg

Cyrhaeddiad – Urdd i Bawb

O’i ddyddiau cynnar fel darlun bach ar bapur yn 1976, mae’r cymeriad coch, gwyn a gwyrdd wedi tyfu i fod yn rhan annatod o brofiadau cenedlaethau o blant a phobl ifanc dros y 50 mlynedd diwethaf.

Mae’r cymeriad wedi datblygu i fod yn symbol o obaith ac yn cynrychioli’r cyfeillgarwch, hwyl a balchder mae’r Urdd, fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn ei rannu gyda phlant a phobl ifanc ledled y wlad.

Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn agor drysau i’r Gymraeg a dangos fod yr Urdd yn perthyn i bawb – drwy estyn croeso cynnes i gynulleidfaoedd newydd, siaradwyr newydd, a theuluoedd o bob cefndir.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×