Dathliadau

Ysgol Gymraeg Aberystwyth a Ysgol Gynradd Plascrug o flaen Murlun Mistar Urdd..jpg

Digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth gyda chymorth Cronfa Llywodraeth Cymru

Ar fore dydd Mercher, 25 Chwefror, aeth Aleighcia Scott draw i Ysgol Gynradd Plascrug ac Ysgol Gynradd Aberystwyth i gynnal ymweliad arbennig, lle bu hi’n sgwrsio gyda disgyblion Blwyddyn 5 am y broses greadigol y tu ôl i’r fersiwn newydd o’r gân. Bu dathliadau pellach yn safle’r murlun newydd, lle bu Aleighcia yn perfformio’r fersiwn newydd o ‘Hei Mistar Urdd!’ yn fyw – gyda Mistar Urdd ei hun yn gwneud ymddangosiad arbennig i nodi’r achlysur.

Mae’r digwyddiad yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gefnogi prosiectau sy’n dathlu diwylliant Cymru, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn ysbrydoli balchder cenedlaethol drwy greadigrwydd a chydweithio.

P1176424.jpg

Murlun newydd yn Aberystwyth mewn cydweithrediad â Pete Fowler ac UNIFY

Mae murlun arbennig wedi cael ei beintio yn Aberystwyth, tref sydd â lle canolog yn hanes yr Urdd ac yn gartref i nifer o gerrig milltir y mudiad dros y degawdau, gan gynnwys pencadlys cyntaf yr Urdd. Mae’r gwaith celf yn dathlu hanner canrif o Mistar Urdd ac yn adlewyrchu’r balchder cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r cymeriad.

Mae’r murlun wedi’i ddylunio gan yr artist adnabyddus Pete Fowler, sy’n enwog am ei waith lliwgar a dychmygol ar gyfer albymau’r Super Furry Animals. Bydd y stiwdio greadigol UNIFY o Gaerdydd yn cefnogi’r gwaith, gan ddod â’u profiad mewn celf gyhoeddus a chynrychiolaeth gymunedol i’r prosiect.

Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru.

Digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth gyda chymorth Cronfa Llywodraeth Cymru.

Gwyliwch fideo am y prosiect yma

15BF8512-A2AB-4072-9819-DAA0DE3B6A21.jpeg

Recordiad newydd o ‘Hei Mistar Urdd!’ mewn partneriaeth â Recordiau Sain

Mae fersiwn newydd o’r gân eiconig yn cael ei rhyddhau ar Recordiau Sain. Mae’r trac, sydd wedi’i hail-greu ar gyfer 2026, yn serennu’r gyfansoddwraig Aleighcia Scott, gyda’r artistiaid Dom James a Lloyd yn ychwanegu elfennau rap cyfoes, a Mared Williams yn cyfrannu lleisiau cefndirol. Mae’r trefniant newydd wedi’i greu gan Morgan Elwy, gan roi bywyd newydd i’r anthem sy’n adnabyddus i filoedd.

Gyda’r fersiwn wreiddiol o ‘Hei Mistar Urdd!’ wedi’i rhyddhau ar label Sain, mae’r Urdd bellach yn rhyddhau’r fersiwn newydd o gân fachog Geraint Davies ar yr un label bron i 50 mlynedd yn ddiweddarach. Recordiwyd y trac yn y stiwdio chwedlonol Sain yn Llandwrog, cartref i’r fersiwn wreiddiol a ryddhawyd yn 1977.

Gwrandewch yma

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×