Hei, Mistar Urdd

CBD2C179-2D54-422E-9304-4884F136B9F7.jpeg

Recordiad newydd o ‘Hei Mistar Urdd!’ mewn partneriaeth â Recordiau Sain

Mae fersiwn newydd o’r gân eiconig wedi cael ei rhyddhau ar Recordiau Sain bron i 50 mlynedd ers rhyddhau'r gwreiddiol ar yr un label. Mae’r trac, sydd wedi’i hail-greu ar gyfer 2026, yn serennu’r gyfansoddwraig Aleighcia Scott, gyda’r artistiaid Dom James a Lloyd yn ychwanegu elfennau rap cyfoes, a Mared Williams yn cyfrannu lleisiau cefndirol. Mae’r trefniant newydd wedi’i greu gan Morgan Elwy, gan roi bywyd newydd i’r anthem sy’n adnabyddus i filoedd.

Gwylio'r fideo yma

HEI MISTAR URDD PACKSHOT.png

Rhag-archebu’r finyl arbennig

Bydd finyl 7” arbennig o’r gân ar gael ar 26 Mai. Ceir y fersiwn newydd ar ochr A, a’r fersiwn wreiddiol o gân fachog Geraint Davies o 1977 ar Ochr B. Dyluniad y clawr gan yr artist Cymreig adnabyddus Pete Fowler. Bydd nifer cyfyngedig hefyd ar gael yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Rhag-archebu yma

Mistar Urdd a Rapsgaliwn 2011.jpg

Hanes cân Mistar Urdd

Cyfansoddwyd y gân eiconig gan Geraint Davies, aelod o Hergest a Mynediad am Ddim yn 1977. Tarodd y cywair cywir gan gyfansoddi alaw afaelgar a geiriau cofiadwy.

Recordiwyd y gân gan y ddau athro gweithgar Gwyn Williams ac Eirwyn Jôs gyda Emyr Wyn yn canu. Daeth Gwyn ac Eirwyn â chriw o ddisgyblion Ysgol Brynteg, Pen-y-Bont ar Ogwrs a Ysgol Pontygwaith yn y Rhondda i ganu côr i forio’r cytgan ar y trac.

Serennodd Mistar Urdd ar sawl record arall wedi hynny, ond Hei Mistar Urdd yw’r gân sydd wedi pontio sawl degawd, gyda fersiynau newydd wedi’u recordio gan y grŵp CIC, y cymeriad Rapsgaliwn a’r cerddor Mei Gwynedd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×