Ar fore dydd Mercher, 25 Chwefror, aeth Aleighcia Scott draw i Ysgol Gynradd Plascrug ac Ysgol Gynradd Aberystwyth i gynnal ymweliad arbennig, lle bu hi’n sgwrsio gyda disgyblion Blwyddyn 5 am y broses greadigol y tu ôl i’r fersiwn newydd o’r gân. Bu dathliadau pellach yn safle’r murlun newydd, lle bu Aleighcia yn perfformio’r fersiwn newydd o ‘Hei Mistar Urdd!’ yn fyw – gyda Mistar Urdd ei hun yn gwneud ymddangosiad arbennig i nodi’r achlysur.
Mae’r digwyddiad yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gefnogi prosiectau sy’n dathlu diwylliant Cymru, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn ysbrydoli balchder cenedlaethol drwy greadigrwydd a chydweithio.
Mae murlun arbennig wedi cael ei beintio yn Aberystwyth, tref sydd â lle canolog yn hanes yr Urdd ac yn gartref i nifer o gerrig milltir y mudiad dros y degawdau, gan gynnwys pencadlys cyntaf yr Urdd. Mae’r gwaith celf yn dathlu hanner canrif o Mistar Urdd ac yn adlewyrchu’r balchder cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r cymeriad.
Mae’r murlun wedi’i ddylunio gan yr artist adnabyddus Pete Fowler, sy’n enwog am ei waith lliwgar a dychmygol ar gyfer albymau’r Super Furry Animals. Bydd y stiwdio greadigol UNIFY o Gaerdydd yn cefnogi’r gwaith, gan ddod â’u profiad mewn celf gyhoeddus a chynrychiolaeth gymunedol i’r prosiect.
Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru.
Digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth gyda chymorth Cronfa Llywodraeth Cymru.
Mae fersiwn newydd o’r gân eiconig yn cael ei rhyddhau ar Recordiau Sain. Mae’r trac, sydd wedi’i hail-greu ar gyfer 2026, yn serennu’r gyfansoddwraig Aleighcia Scott, gyda’r artistiaid Dom James a Lloyd yn ychwanegu elfennau rap cyfoes, a Mared Williams yn cyfrannu lleisiau cefndirol. Mae’r trefniant newydd wedi’i greu gan Morgan Elwy, gan roi bywyd newydd i’r anthem sy’n adnabyddus i filoedd.
Gyda’r fersiwn wreiddiol o ‘Hei Mistar Urdd!’ wedi’i rhyddhau ar label Sain, mae’r Urdd bellach yn rhyddhau’r fersiwn newydd o gân fachog Geraint Davies ar yr un label bron i 50 mlynedd yn ddiweddarach. Recordiwyd y trac yn y stiwdio chwedlonol Sain yn Llandwrog, cartref i’r fersiwn wreiddiol a ryddhawyd yn 1977.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now