Rydym yn cychwyn blwyddyn o ddathlu 50 mlynedd ers geni Mistar Urdd – un o eiconau mwyaf adnabyddus a hoffus Cymru!
Byddwn yn cyflwyno cyfres o brosiectau arbennig dros y flwyddyn, ac yn rhannu’r manylion diweddaraf i gyd gyda chi yma.
Mae fersiwn newydd o’r gân eiconig ‘Hei Mistar Urdd!’ wedi cael ei ryddhau i ddathlu 50 mlynedd ers creu Mistar Urdd.
Gyda phrif leisydd y trac Aleighcia Scott, Dom James a Lloyd yn ychwanegu rap, llais cefndirol Mared Williams a threfniant newydd gan Morgan Elwy – dyma diwn!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now